Enghreifftiau o waith dylunio'r Lolfa
Dylunio
Mae ein llyfrau ein hunain yn dangos y sylw a rown ni i ddylunio da a chlir. Mae ein dylunwyr yn arbenigo mewn dylunio llyfrau a chloriau, gyda phrofiad arbennig o ddylunio dwyieithog ac atgynhychu lliw. Defnyddiwch nhw ar gyfer eich gwaith chi!
Gyda saith golygydd hefyd ar y staff, gallwn hefyd gynnig gwasanaeth golygu cyflawn -- gyda'r gorau yng Nghymru! Mae gennym hefyd berthynas dda â rhai dylunwyr lleol, yr ydym yn eu defnyddio ar gyfer prosiectau arbennig.
Prisir gwaith dylunio a golygu ar wahân i'r argraffu.