Y Gorau yn y Gorllewin! Talybont Aberystwyth Ceredigion Cymru/Wales SY24 5HEylolfa@ylolfa.com |
![]()
Datblygwyd y wefan gan
Technoleg Taliesin Cyf. |
Pam dewis Y Lolfa?ProfiadSefydlwyd Y Lolfa yn 1967 fel cwmni cyhoeddi ac argraffu mentrus a gwahanol. Er tyfu'n raddol, rydym yn parhau yn gwmni bach, amryddawn a chreadigol sy'n ddigon bach i roi sylw manwl i bob gwaith sy'n dod i ni, ond yn ddigon mawr i daclo rhediadau hir. Rydym yn cyflogi dros ugain yn amser-llawn yn Nhalybont. Y gorau am lyfrau Rydym yn arbenigo mewn argraffu niferoedd bach i ganolig (1 - 5,000 copi) ar ein gweisg berffeithio (2 ochr) neu 5-lliw yn y maint B2. Hefyd gallwn argraffu'n ddigidol. Ansawdd uchel Allwch chi ddim curo safon ein gwasg Komori Lithrone 5-lliw! Rydym yn argraffu taflenni, adroddiadau, gwaith swyddfa a chylchgronau arni mewn niferoedd hyd at 1/2 miliwn i gwsmeriaid ledled Cymru. Sgiliau dwyieithog Mae ein golygyddion a'n dylunwyr yn deall sut i gynhyrchu gwaith dwyieithog sy'n ddeniadol a dallenadwy; hefyd gallwn gynnig gwasanaeth cyfieithu rhad. Popeth o dan yr un tô Ein polisi erioed ydi gwneud popeth ein hunain, ac mae hynny'n cynnwys rhwymo a lamineiddio yn ogystal ag argraffu a dylunio. Gwasanaeth personol Caiff pob gwaith ein sylw manwl a gofalus. Cysyllwch nawr â Paul Williams, ein Rheolwr Cynhyrchu, sydd â dros 20 mlynedd o brofiad o'r diwydiant. Ffoniwch 01970 831 901 (llinell uniongyrchol) am gyngor neu am bris. Neu cliciwch ar Pris ar frys! |
|