Y Gorau yn y Gorllewin! Talybont Aberystwyth Ceredigion Cymru/Wales SY24 5HEylolfa@ylolfa.com |
![]()
Datblygwyd y wefan gan
Technoleg Taliesin Cyf. |
Hunan gyhoeddiYn wahanol i'r rhan fwyaf o argraffwyr, mae gan Y Lolfa 45 mlynedd o brofiad o gyhoeddi - profiad yr ydym yn falch i'w rannu ag awduron sydd am fentro cyhoeddi eu hunain, neu dros gymdeithas, mudiad neu sefydliad. Gallwn eich cynghori ar bob rhan o'r broses gyhoeddi.Golygu - Mae gennym chwe golygydd profiadol sy'n gallu golygu eich gwaith yn greadigol ac yn destunol. Dylunio - Bydd ein dylunwyr yn sicrhau bod safon y testun a'r lluniau gystal ag unrhyw un o gyhoeddiadau'r Lolfa ei hun. Gallant hefyd ddylunio clawr deniadol i chi. Argraffu a rhwymo - Gallwn argraffu a rhwymo llyfrau ym mhob dull: â glud, wedi'u styffylu neu winio, neu mewn rhwymiad sbeiral neu glawr caled. Storio - Gyda dau warws eang, gallwn storio llyfrau i chi am bris rhesymol iawn. Cyngor - Yn bwysicach na dim, gallwn gynnig cyngor awdurdodol ar bob elfen o'r cynhyrchu, gan gynnwys prisio a dosbarthu, marchnata a hyd yn oed gael rhif ISBN. Codwch y ffôn i drefnu sgwrs i drafod eich anghenion. Yn ogystal ag argraffu eich llyfr, fe allwn ni hefyd, wrth gwrs, ei gyhoeddi drosoch! Cliciwch yma am ragor o wybodaeth. |
|