Datblygwyd y wefan gan
Technoleg Taliesin Cyf.

Llyfrau a llyfrynnau


Gyda 45 mlynedd o brofiad o gyhoeddi llyfrau, does ’na ddim llawer nad y’n ni’n gwybod am y gêm yma! Gallwn argraffu 1 - 5,000 copi yn hwylus gan blygu, casglu, rhwymo a lamineiddio i gyd o dan yr un tô. Mae hyn yn rhoi rheolaeth fanwl i ni dros yr holl broses.

Mae ein gwasg berffeithio/2-liw Komori Lithrone yn argraffu 2 ochr o'r ddalen, sy'n ddelfrydol ar gyfer argraffu llyfrau. Does dim curo ar ein gwasg Komori 5-lliw ar gyfer gwaith lliw -- edrychwch yn eich siop lyfrau leol i weld enghreifftiau! Mae 'da ni hefyd wasg ddigidol Xerox ar gyfer rhediadau bach.

Yn ogystal â rhwymo glud clawr meddal, gallwn hefyd styffylu, gwinio, a rhwymo mewn cloriau caled ac â sbeiral.

Rydym yn argraffu llyfrau ar gyfer gweisg eraill a sefydliadau, gyda mwy a mwy o awduron yn dod atom i hunan gyhoeddi. Am fwy o fanylion am hunan gyhoeddi, cliciwch ar hunan gyhoeddi.
Enghreifftiau o lyfrau a llyfrynnau wedi'u hargraffu gan Y Lolfa

Enghreifftiau o lyfrau a llyfrynnau wedi'u hargraffu gan Y Lolfa